Object
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
Representation ID: 1294
Received: 07/02/2019
Respondent: Mr Gethin Thomas
Representation Summary:
Rhagwelir y byddai tua 50 i 60 o dai ar y safle hwn. Mae'r heolydd yn y pentref yn orlawn ar hyn o bryd. Sut fydd hi pan fydd yna gynnydd sylweddol o ran trafnidiaeth? Beth os fydd yna Ysgol ardal ar safle'r Gwendraeth yn y dyfodol- Ble bydd ei cae chwarae?
A oes yna isadeiledd addas i gwrdd a gofynion y datblygiad hwn?
Byddai'r datblygiad ar gaeau'r Gwendraeth yn hoelen farwol i'r Gymraeg yn y pentref. Ar hyn o bryd mae canran o tua 64% o bobl Drefach yn medru ac yn defnyddio'r Gymraeg. Rhaid gwarchod hynny.