Object
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
Representation ID: 1002
Received: 07/02/2019
Respondent: Dr Wiliam Thomas
Representation Summary:
Hoffwn gofrestru fy ngwrthwynebiad i ddatblygu ar y tir hwn ar sail
amgylcheddol. Ni ellir ystyried y safle ar gyfer codi tai gan ei fod o fewn parc
llifogydd. Mae'r safle yn dir amaethyddol da sydd hefyd yn gynefin pwysig i fyd
natur. Nid yw'r isadeiledd yn y pentref o ran ffyrdd a chathffosiaeth yn ddigonol i
ymdopi â dwysedd y fath ddatblygiad. Byddai'n golygu cynyddu poblogaeth y
pentref yn afresymol gan arwain at bwysau ychwanegol ar wasanaethau
cyhoeddus megis addysg, iechyd a gofal. Mae'r ysgol gynradd leol eisoes yn
llawn. Diolch