Object

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

Representation ID: 1001

Received: 07/02/2019

Respondent: Dr Wiliam Thomas

Representation Summary:

Mae'r tir hwn yn dir amaethyddol da ac yn gynefin naturiol y mae angen ei
ddiogelu o ran amgylchedd iach a negydu effeithiau carbon. Nid oes restr
aros am dai yn Llanddarog ac mae'r ysgol gynradd yn llawn. Mae'r
datblygiadau sydd ynghlwm â'r safleoedd ymgeisio yn Llanddarog ar raddfa
drefol, yn afresymol ac yn hurt o ystyried yr effeithiau ar natur y
pentref, yr amgylchedd, y llif traffig a'r gwasanaethau carthffosiaeth.
Gwrthwynebaf hefyd oherwydd byddai codi tai ar y safle hwn yn golygu y
byddai deiliaid y tai cyfagos yn colli eu preifatrwydd ac yn dioddef sŵn
ac anhwylusdod mawr