Gwrthwynebu

Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

ID sylw: 5889

Derbyniwyd: 14/04/2023

Ymatebydd: Cllr. Tyssul Evans

Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi

Cadarn? Heb nodi

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Rhoi’r cyfle i greu mwy o pods, shepperd huts, safleoedd carafanau a thebyg yng nghefn gwlad hynny o bosib fel prosiectau arall gyfeirio ?
___
Give the opportunity to create more pods, shepperd huts, caravan sites and similar in the countryside as diversification projects ?

Newid wedi’i awgrymu gan ymatebydd:

Newid fel y nodir
___
Change as set out

Testun llawn:

RE : Response to WRITTEN STATEMENT IN THE CARMARTHENSHIRE SECOND REVISED LDP CONSULTATION 2016-2033
FOLLOWING ON FROM the response which I am 100% supportive of which was forwarded to the department yesterday & presented by Cllr. Carys Jones on behalf of the 38 strong Plaid Cymru members of Carmarthenshire County Council I myself as the present Chairman of Carmarthenshire County Council’s Planning Committee wish to place on record these particular comments below which I personally am most concerned about within that document.

1) Creu mwy o degwch rhwng ceisiadau anghenion lleol/tai fforddiadwy i gymharu a cheisiadau DUP/OPD e.e. yr angen i greu cynllun busnes ymlaen llaw gyda tai fforddiadwy a thai anghenion lleol yn erbyn creu cynllun busnes 5 mlynedd ar ol derbyn caniatad gyda’r OPD’s.

2) Gyda amcanion Llywodraeth Llafur Cymru i gael miliwn o siaradwyr cymraeg dros y chwartref canrif nesa, amcan sydd i’w groesawi’n fawr : sicrhau trwy ddodi amodau llym ar bob cais yng nghefn gwlad fel ei bod yn mynd at ddibenion pobol ifanc sydd am aros a chodi cartref yn ei cymuned yn hytrach na gweld mwy o fewnlifiad yn enwedig o deuluoedd sydd am ymadael a’r dinasoedd a dod mas i gefn gwlad wrth iddynt baratoi ymddeol a thrwy hynny amddifadu teuluoedd ifanc lleol rhag gallu cystadlu yn y farchnad eiddo agored.

3) Mae dyletswydd arnom fel Adran Gynllunio sicrhau fod gweledigaeth ein aelodau etholedig ar draws Cymru yn derbyn cefnogaeth wrthym er mwyn mynd ati o ddifrif i hybu datblygiad ein iaith dros y genedl gyfan. Dylid ystyried a chofio mae yn y llefydd mwyaf gwledig ag anghysbell mae’n iaith gryfaf ac mae dyletswydd arnom i anog ein ieuenctid i sefyll yn y gymuned lle ei magwyd a thrwy iddynt wneud hynny sicrhau fod bywyd pob dydd y cymunedau gwledig hynny yn ffynnu a bod ysgolion, neuaddau a chapeli cefn gwlad ymysg pethau arall yn gwynebu sicrwydd cadarnhaol i’r dyfodol.

4) Rhoi’r mwy o gyfle i fobol ifanc sydd am sefydlu busnesau bach yn y gymuned lle ei magwyd i ddatblygu busnes o fewn ei cymunedau

5) Gorfodi tirfeddianwyr ac asianteithiau i ofyn am hawl cynllunio i blannu degau o erwau o goed yn arbennig ar dir ffermydd mwyaf ffrwythlon Sir Gar. Derbynir fod yna dir o ansawdd gwael sydd yn addas i blannu coed arno ond dylid gwarchod ein tir mwyaf ffrwythlon er mwyn diogelu tir fydd yn gallu cynhyrchu bwydydd yn y dyfodol.

6) Dod ‘nol ac adfeilion tai byw sydd wedi mynd yn adfael ond gyda’g amodau llym fod y defnydd yn mynd at anghenion pobol lleol a DDIM i’w gwerthu ymlaen a chreu mwy o fewnlifiad

7) Rhoi’r cyfle i greu mwy o pods, shepperd huts, safleoedd carafanau a thebyg yng nghefn gwlad hynny o bosib fel prosiectau arall gyfeirio ?

8) Rhoi hawl i bentrefi sydd bellach heb llinell datblygu ffurfiol i dyfu dipyn mwy na 10%, efallai lan at rhywle tebyg i 25% - 30% o dwf.

Atodiadau:


Ein hymateb:

Wedi nodi. Mae SP11 yn gosod y fframwaith ar gyferdull polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig sy'n ddigon ymatebol a hyblyg i alw'r farchnad hyd at 2033, tra hefyd yn ceisio amddiffyn yr union cymunedau, tirwedd a trefwedd sy'n gwneud Sir Gaerfyrddin yn le gwych i ymweld â ac i'w fwynhau. Tra fod y polisi strategol yn darparu'r cydtestun trosfwaol, mae'r polisiau penodol yn darparu'r manylder.

Noted. SP11 sets the framework for a policy approach within the Revised LDP that is sufficiently responsive and flexible to market demand up to 2033, whilst also seeking to protect the very communities, landscape and townscape that makes Carmarthenshire a fantastic place to visit and enjoy. Whilst the strategic policy provides the overarching context, specific policies provide detail.