Gwrthwynebu
Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
ID sylw: 5886
Derbyniwyd: 14/04/2023
Ymatebydd: Cllr. Tyssul Evans
Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi
Cadarn? Heb nodi
Rhoi’r mwy o gyfle i fobol ifanc sydd am sefydlu busnesau bach yn y gymuned lle ei magwyd i ddatblygu busnes o fewn ei cymunedau.
___
Giving the greater opportunity to young people who want to set up small businesses in the community where they grew up to develop business within their communities.
Newid fel y nodir
___
Change as set out.
RE : Response to WRITTEN STATEMENT IN THE CARMARTHENSHIRE SECOND REVISED LDP CONSULTATION 2016-2033
FOLLOWING ON FROM the response which I am 100% supportive of which was forwarded to the department yesterday & presented by Cllr. Carys Jones on behalf of the 38 strong Plaid Cymru members of Carmarthenshire County Council I myself as the present Chairman of Carmarthenshire County Council’s Planning Committee wish to place on record these particular comments below which I personally am most concerned about within that document.
1) Creu mwy o degwch rhwng ceisiadau anghenion lleol/tai fforddiadwy i gymharu a cheisiadau DUP/OPD e.e. yr angen i greu cynllun busnes ymlaen llaw gyda tai fforddiadwy a thai anghenion lleol yn erbyn creu cynllun busnes 5 mlynedd ar ol derbyn caniatad gyda’r OPD’s.
2) Gyda amcanion Llywodraeth Llafur Cymru i gael miliwn o siaradwyr cymraeg dros y chwartref canrif nesa, amcan sydd i’w groesawi’n fawr : sicrhau trwy ddodi amodau llym ar bob cais yng nghefn gwlad fel ei bod yn mynd at ddibenion pobol ifanc sydd am aros a chodi cartref yn ei cymuned yn hytrach na gweld mwy o fewnlifiad yn enwedig o deuluoedd sydd am ymadael a’r dinasoedd a dod mas i gefn gwlad wrth iddynt baratoi ymddeol a thrwy hynny amddifadu teuluoedd ifanc lleol rhag gallu cystadlu yn y farchnad eiddo agored.
3) Mae dyletswydd arnom fel Adran Gynllunio sicrhau fod gweledigaeth ein aelodau etholedig ar draws Cymru yn derbyn cefnogaeth wrthym er mwyn mynd ati o ddifrif i hybu datblygiad ein iaith dros y genedl gyfan. Dylid ystyried a chofio mae yn y llefydd mwyaf gwledig ag anghysbell mae’n iaith gryfaf ac mae dyletswydd arnom i anog ein ieuenctid i sefyll yn y gymuned lle ei magwyd a thrwy iddynt wneud hynny sicrhau fod bywyd pob dydd y cymunedau gwledig hynny yn ffynnu a bod ysgolion, neuaddau a chapeli cefn gwlad ymysg pethau arall yn gwynebu sicrwydd cadarnhaol i’r dyfodol.
4) Rhoi’r mwy o gyfle i fobol ifanc sydd am sefydlu busnesau bach yn y gymuned lle ei magwyd i ddatblygu busnes o fewn ei cymunedau
5) Gorfodi tirfeddianwyr ac asianteithiau i ofyn am hawl cynllunio i blannu degau o erwau o goed yn arbennig ar dir ffermydd mwyaf ffrwythlon Sir Gar. Derbynir fod yna dir o ansawdd gwael sydd yn addas i blannu coed arno ond dylid gwarchod ein tir mwyaf ffrwythlon er mwyn diogelu tir fydd yn gallu cynhyrchu bwydydd yn y dyfodol.
6) Dod ‘nol ac adfeilion tai byw sydd wedi mynd yn adfael ond gyda’g amodau llym fod y defnydd yn mynd at anghenion pobol lleol a DDIM i’w gwerthu ymlaen a chreu mwy o fewnlifiad
7) Rhoi’r cyfle i greu mwy o pods, shepperd huts, safleoedd carafanau a thebyg yng nghefn gwlad hynny o bosib fel prosiectau arall gyfeirio ?
8) Rhoi hawl i bentrefi sydd bellach heb llinell datblygu ffurfiol i dyfu dipyn mwy na 10%, efallai lan at rhywle tebyg i 25% - 30% o dwf.
Nodwyd. Trwy ddarparu safleoedd cyflogaeth newydd, diogelu safleoedd cyflogaeth presennol, a thrwy gefnogi mentrau cyflogaeth cynaliadwy ar raddfa fach mewn aneddiadau haen is, ystyrir bod Polisi Strategol SP 7 (ynghyd â’r 5 polisi cyflogaeth arall) yn ddigon cadarn a bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer sefydlu busnesau bach mewn cymunedau ledled y Sir.
Noted. Through the provision of new employment sites, the safeguarding of existing employment sites, and by supporting small scale sustainable employment enterprises in lower tiered settlements, Strategic Policy SP 7 (along with the other 5 employment policies) is considered sufficiently robust and will provide opportunities for establishing small businesses in communities throughout the County.