Gwrthwynebu
Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
ID sylw: 5884
Derbyniwyd: 14/04/2023
Ymatebydd: Cllr. Tyssul Evans
Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi
Cadarn? Heb nodi
Gyda amcanion Llywodraeth Llafur Cymru i gael miliwn o siaradwyr cymraeg dros y chwartref canrif nesa, amcan sydd i’w groesawi’n fawr : sicrhau trwy ddodi amodau llym ar bob cais yng nghefn gwlad fel ei bod yn mynd at ddibenion pobol ifanc sydd am aros a chodi cartref yn ei cymuned yn hytrach na gweld mwy o fewnlifiad yn enwedig o deuluoedd sydd am ymadael a’r dinasoedd a dod mas i gefn gwlad wrth iddynt baratoi ymddeol a thrwy hynny amddifadu teuluoedd ifanc lleol rhag gallu cystadlu yn y farchnad eiddo agored.
___
With the Welsh Labour Government's aims to have one million Welsh speakers over the next quarter of a century, a very welcome objective : ensure by imposing strict conditions on all applications in the countryside so that it goes to the purposes of young people who want to stay and build a home in their community rather than seeing a greater influx especially of families who want to leave and the cities and come out to the countryside as they prepare retirement thereby depriving local young families from being able to compete in the open property market.
Newid fel y nodir.
___
Change as set out.
RE : Response to WRITTEN STATEMENT IN THE CARMARTHENSHIRE SECOND REVISED LDP CONSULTATION 2016-2033
FOLLOWING ON FROM the response which I am 100% supportive of which was forwarded to the department yesterday & presented by Cllr. Carys Jones on behalf of the 38 strong Plaid Cymru members of Carmarthenshire County Council I myself as the present Chairman of Carmarthenshire County Council’s Planning Committee wish to place on record these particular comments below which I personally am most concerned about within that document.
1) Creu mwy o degwch rhwng ceisiadau anghenion lleol/tai fforddiadwy i gymharu a cheisiadau DUP/OPD e.e. yr angen i greu cynllun busnes ymlaen llaw gyda tai fforddiadwy a thai anghenion lleol yn erbyn creu cynllun busnes 5 mlynedd ar ol derbyn caniatad gyda’r OPD’s.
2) Gyda amcanion Llywodraeth Llafur Cymru i gael miliwn o siaradwyr cymraeg dros y chwartref canrif nesa, amcan sydd i’w groesawi’n fawr : sicrhau trwy ddodi amodau llym ar bob cais yng nghefn gwlad fel ei bod yn mynd at ddibenion pobol ifanc sydd am aros a chodi cartref yn ei cymuned yn hytrach na gweld mwy o fewnlifiad yn enwedig o deuluoedd sydd am ymadael a’r dinasoedd a dod mas i gefn gwlad wrth iddynt baratoi ymddeol a thrwy hynny amddifadu teuluoedd ifanc lleol rhag gallu cystadlu yn y farchnad eiddo agored.
3) Mae dyletswydd arnom fel Adran Gynllunio sicrhau fod gweledigaeth ein aelodau etholedig ar draws Cymru yn derbyn cefnogaeth wrthym er mwyn mynd ati o ddifrif i hybu datblygiad ein iaith dros y genedl gyfan. Dylid ystyried a chofio mae yn y llefydd mwyaf gwledig ag anghysbell mae’n iaith gryfaf ac mae dyletswydd arnom i anog ein ieuenctid i sefyll yn y gymuned lle ei magwyd a thrwy iddynt wneud hynny sicrhau fod bywyd pob dydd y cymunedau gwledig hynny yn ffynnu a bod ysgolion, neuaddau a chapeli cefn gwlad ymysg pethau arall yn gwynebu sicrwydd cadarnhaol i’r dyfodol.
4) Rhoi’r mwy o gyfle i fobol ifanc sydd am sefydlu busnesau bach yn y gymuned lle ei magwyd i ddatblygu busnes o fewn ei cymunedau
5) Gorfodi tirfeddianwyr ac asianteithiau i ofyn am hawl cynllunio i blannu degau o erwau o goed yn arbennig ar dir ffermydd mwyaf ffrwythlon Sir Gar. Derbynir fod yna dir o ansawdd gwael sydd yn addas i blannu coed arno ond dylid gwarchod ein tir mwyaf ffrwythlon er mwyn diogelu tir fydd yn gallu cynhyrchu bwydydd yn y dyfodol.
6) Dod ‘nol ac adfeilion tai byw sydd wedi mynd yn adfael ond gyda’g amodau llym fod y defnydd yn mynd at anghenion pobol lleol a DDIM i’w gwerthu ymlaen a chreu mwy o fewnlifiad
7) Rhoi’r cyfle i greu mwy o pods, shepperd huts, safleoedd carafanau a thebyg yng nghefn gwlad hynny o bosib fel prosiectau arall gyfeirio ?
8) Rhoi hawl i bentrefi sydd bellach heb llinell datblygu ffurfiol i dyfu dipyn mwy na 10%, efallai lan at rhywle tebyg i 25% - 30% o dwf.
Mae Strategaeth Ofodol y Cynllun wedi'i thanategu gan egwyddorion cynaladwyedd. Fel y cyfryw, mae'r Cynllun yn dyrannu twf o raddfa briodol i'r ardaloedd gwledig sy'n adlewyrchu ei raddfa bresennol a lefel y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt. Mae'r Papurau Pwnc ar Rôl a Swyddogaeth a Thwf a Dosbarthiad Gofodol (rhan 1) yn darparu'r dystiolaeth ategol ar gyfer hyn. Mae polisïau'r Cynllun yn caniatáu ar gyfer datblygu tai i ddiwallu anghenion lleol o dan amgylchiadau penodol.
The Plan's Spatial Strategy is underpinned by the principles of sustainability. As such, the Plan allocates growth of an appropriate scale to the rural areas reflective of its existing scale and the level of services and facilities available to them. The Topic Papers on Role and Function and Growth and Spatial Distribution (part 1) provide the supporting evidence for this. The Plan's policies allow for the development of housing to meet local needs under specific circumstances.