Gwrthwynebu

Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

ID sylw: 5782

Derbyniwyd: 14/04/2023

Respondent ID: 5835

Ymatebydd: Cllr. Meinir James

Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi

Cadarn? Heb nodi

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Tra’n cydnabod pwysigrywdd treftadaeth adeiledig y Sir, mae hyn yn her mawr yng ngyd-destun yr argyfwng newid hinsawdd yn arbennig mewn tref fel Llanymddyfri lle nad oes modd, ar hyn o bryd, i osod ynni adnewyddadwy fel paneli solar ar adeiladau’r dre. Nid yw’n ardal addas ar gyfer melinau gwynt chwaith ac mae hynny’n rhoi her arbennig i’r dref i fod yn gynaladwy.

Yn sgil yr argyfwng sydd o ran newid hinsawdd, mae angen datrys y math yma o sefyllfaoedd a chael hyblygrwydd gan fod paneli solar, er enghraifft, yn osodiad dros-dro a ddim yn amharu ar strwythur yr adeiladau.
___
Whilst recognising the importance of the County's built heritage, this is a major challenge in the context of the climate change crisis, particularly in a town such as Llandovery where it is currently not possible to install renewable energy such as solar panels on town buildings. It's also not a suitable area for wind turbines and that poses the town a particular challenge to be sustainable.

In light of the climate change crisis, these kind of situations need to be resolved and there needs to be flexibility as solar panels, for example, are a temporary installation and do not impair the structure of the buildings.

Atodiadau:


Ein hymateb:

Anghytuno. Mae'r Cynllun yn ceisio cadw a gwella cymeriad tirwedd ac amgylchedd hanesyddol y Sir, yn bennaf trwy Bolisi Strategol - SP 15: Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol a'r polisïau penodol cysylltiedig. Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio cefnogi cynigion datblygu os ydynt yn ymateb, yn addasu, yn cynyddu gwydnwch, ac yn lleihau achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae hyn ar yr amod nad ydynt yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau gweledol na chymeriad y dirwedd a'u bod yn cwrdd â'r meini prawf a nodir yn y Cynllun. Er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd tra'n cadw treftadaeth adeiledig ac yn ogystal â chymeriad y dirwedd, bydd cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi a'u cyhoeddi ar yr un pryd â mabwysiadu'r Cynllun.

Disagree. The Plan seeks to preserve and enhance landscape character and historic environment of the County, primarily through Strategic Policy – SP 15: Protection and Enhancement of the Built and Historic Environment and the associated specific policies. The Plan also seeks to support development proposals if they respond, adapt, increase resilience, and minimise the causes and impacts of climate change. This is provided they do not have an unacceptable impact on visual amenity or landscape character and that they meet the criteria stipulated within the Plan. In order to tackle climate change whilst preserving built heritage and in addition to landscape character, a suite of Supplementary Planning Guidance will be prepared and published concurrent with the adoption of the Plan.