Gwrthwynebu
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
ID sylw: 578
Derbyniwyd: 04/02/2019
Ymatebydd: Miss Lowri Thomas
Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:
Mae'r adeilad presennol ar safle Maesygwern yn safle ar gyfer masnach. Rwy'n gwrthwynebu'r newid yn y defnydd o fasnach i ddatblygiad tai.
Gwrthwynebaf adeiladu tai o fwy nag un llawr ar y safle, gan fod hyn yn ymyrryd ar breifatrwydd yr holl dai sydd ar hyd Heol Caegwyn.
Does dim lle addas i wthio ty rhwng Bancyberllan a Bronllwyn - byddai hyn yn dwyn golau oddi wrth y ddau leoliad, ac yn ymyrryd ar breifatrwydd.
Mae'r llif traffig ar hyd Heol Caegwyn wedi cynyddu'n aruthrol yn ddiweddar, ac o adeiladu mwy o dai, mi fydd hyn yn creu problemau dwys