Gwrthwynebu

Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

ID sylw: 5777

Derbyniwyd: 14/04/2023

Respondent ID: 5835

Ymatebydd: Cllr. Meinir James

Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi

Cadarn? Heb nodi

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

11.498/11.499/11.500
Byddai’n fwy addas a chost-effeithiol a chynaladwy i roi pwyntiau gwefru ‘3-fas’ (3-phase) ymhob annedd newydd. Gallai hyn alluogi’r preswylydd i’w defnyddio ar gyfer gwefru trydan a pwmpiau gwresogi. Byddai hyn hefyd yn galluogi’r preswylydd i ddefnyddio’r technoleg diweddaraf pan fyddent ei angen e.e. ni fydd gan bob preswylydd gar trydan yn syth a gallai’r pwynt gwefru trydan EV rhydu a mynd yn ofer yn y cyfamser.
Byddai hefyd yn well i asesu’r ddarpariaeth lleol wrth glustnodi gofodau pwynt gwefru mewn datblygiadau meysydd parcio gan y gallai fod llawer o bwyntiau gwefru yn y cyffiniau neu os nad oes dim byddai angen cynyddu’r 10%.
___
11.498/11.499/11.500
It would be more suitable and cost-effective and sustainable to install 3-phase charging points in all new dwellings. This could enable the resident to use them for electric charging and heating pumps. This would also enable the occupant to use the latest technology when they need it e.g. not every resident will have an electric car at once and the EV electric charging point could rust and go to waste in the meantime.
It would also be better to assess local provision when allocating charging points in car park developments as there may be many charging points in the vicinity or if there are none the 10% required would need to be increased.

Atodiadau:


Ein hymateb:

Anghytuno. Mae'r Cynllun yn cynnwys amrywiaeth o bolisïau a darpariaethau mewn perthynas â chyfrannu a mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd o safbwynt cynllunio defnydd tir, gyda'r polisi hwn yn un. Yn hyn o beth, fe'i paratowyd mewn perthynas â darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a chynlluniau a strategaethau eraill gan gynnwys yr argyfyngau newid yn yr hinsawdd fel y'u datganwyd gan LlC a'r Cyngor.
___
Disagree. The Plan includes a range of policies and provisions in relation to contributing and addressing the challenges of climate change from a land use planning perspective, this policy being one. In this respect it has been prepared with regard to the provisions of PPW and other plans and strategies including the climate change emergencies as declared by the WG and the Council.