Gwrthwynebu

Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

ID sylw: 5774

Derbyniwyd: 14/04/2023

Respondent ID: 5835

Ymatebydd: Cllr. Meinir James

Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi

Cadarn? Heb nodi

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Dylid gosod polisi amodol bod rhai o’r tai fforddiadwy i’w hadeiladu ar ddechrau’r datblygiad neu o leiaf yn rhan o’r 5 neu 10 tŷ cyntaf yn y datblygiad i sicrhau y caiff y tai fforddiadwy eu hadeiladu yn y tymor hir, yn ddi-rwystr.
Mae’n amodol i annedd sengl rhan-dalu swm cyfnewid wrth i’r annedd gael ei adeiladu a dylai amod tebyg i fod yn rhan o gyfraniad ar-safle at dai fforddiadwy hefyd.
Bydd hyn yn galluogi i ymateb i’r galw am dai fforddiadwy ynghynt hefyd gan y bydd yr anheddau ar gael ar ddechrau datblygiad a heb orfod aros i ddatblygiad gael ei gwblhau.
___
A conditional policy should be set that some of the affordable homes are to be built at the beginning of the development or at least as part of the first 5 or 10 houses in the development to ensure that the affordable homes are built unhindered in the long term.
It is conditional for a single dwelling to pay in part a Commuted Sum as the dwelling is built and a similar condition should also be part of an on-site contribution to affordable homes.
This will also enable an earlier response to the demand for affordable homes as the dwellings will be available at the beginning of development and without having to wait for development to be completed.

Atodiadau:


Ein hymateb:

Anghytuno. Bydd angen ystyried hyfywedd datblygu'r safle, a'r llif arian i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o gynllun mwy. Byddai polisi amodol yn dileu'r hyblygrwydd hwn a dylai symud datblygiad yn raddol fod yn ystyriaeth fesul achos. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu o fewn CCA Tai Fforddiadwy wedi'i ddiweddaru sydd i'w fabwysiadu yn unol â'r CDLl Diwygiedig.

Disagree. Consideration will need to be given to the Development Viability of the site, and the cashflow in which to deliver affordable housing as part of the larger scheme. A conditional policy would take away this flexibility and the phasing of development should be a consideration on a case by case basis. Further information will be provided within an updated Affordable Housing SPG which is to be adopted in line with the Revised LDP.