Cefnogi

Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

ID sylw: 5475

Derbyniwyd: 13/04/2023

Ymatebydd: Mair Evans

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Support: Policy HOM1 – site ref: SC33/h3 Porthyrhyd (current LDP)

Wernfraith Farm: It was a complete relief to see that this site was de-allocated and wouldn’t be included in the Deposit version of the LDP 2018-203. Unfortunately, the risk that it will be concerted over with a development of 42 houses way before this LDP comes into force and will be categorised as a windfall site. Strange world.

Newid wedi’i awgrymu gan ymatebydd:

No change.

Testun llawn:

Annwyl Reolwr,
Mae 2 argymhelliad ar gyfer pentref Porth—y-rhyd ac ymatebaf yn gryno iddynt isod.

1. Newid y ffin i gynnwys y tir ger Ty Cynheidre ar gyfer ei ddatblygu.

Yn anfiodus, nid oes manylion ar gael ar yr adeg hon yn y broses parthed y math o ddatblygiad, ei faint, nifer tai, math o dai ayyb.

O ganlyniad nid oes dewis gennyf ond GWRTHWYNEBU. Gofynnaf yn garedig am gael cyfle i ymateb eto unwaith y bydd manylion ar gael i'r cyhoedd am y cynlluniau ar gyfer y
tir hwn.

2. SuV20/h1 — tir ger Fferm Llwyn Henri
Rwy'n gwrthwynebu am y rhesymau canlynol:

Nid oes manylion ar gael i‘r cyhoedd ar yr adeg hon yn y broses parthed y math o ddatblygiad nac ychwaith nifer y tai. Mae'r 5+ braidd yn amwys a gwyddom o'r gorau sut
all y niferoedd chwyddo. (e.e. Lovells 32 - 52 a safle arfaethedig Wernfraith 27 - 42 ).

Gwrthodwyd y safle hwn yn y gorffennol yn dilyn misoedd lawer o gynnal profion ac asesiadau gwahanol, o ymgynghori gyda‘r asiantaethau perthnasol ac o goladu ffeiliau o dystiolaeth o amrywiol ffynonellau.
Gwrthod oedd barn yr Ymgynghorydd Cynllunjo annibynnol ar y pryd. Gwrthod oedd argymhelliad yr Adran Blaen-gynllunio. Gwrthod oedd dyfarniad yr Arolygydd Annibynnol yn dilyn Gwrandawiad Cyhoeddus a dyna oedd‘penderfyniad y Cyngor Sir yn seiliedig ar broses cadarn a rhesymegol.

Rwy‘n llwyr barchu hawl yr Ymgeisydd i ail gyflwyno'r safle ond er i'r cae gael ei docio y tro hwn mac rhannau ohono yn dal o fewn Parthau Llifogydd C2 a B ac njd yw newid
lleoliad mynedfa yn cael gwared o’r holl rwystrau ac ardrawiadau dwys eraill.

Mae prif bibell ddwr yn agos i‘r cae. Hyd yma ni dderbyniais ateb i gwestiwn syml:

Faint o le sydd angen ei gadw‘n glir o boptu'r bibell fel clustogfa neu Goridor Diogelwch rhag datblygiad?

Mae llawer o broblemau dwys dwr glaw a'r system garthffosiaeth. Teimlaf yn aml bod y drol
yn cael ei roi o flaen y ceffyl. Oni ddylid uwchraddio'r isadeiledd cyn caniatau datblygiadau.
Fel arall gall yr ardrawiad fod yn hunllefus fel y gwelwyd eisoes yn y pentref hwn.

Cofrestraf fy ngwrthwynebiad i ddyrannu'r cae hwn yn y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033 a dymunaf siarad yn Gymraeg mewn sesiwn gwrandawiad yr
Archwiliad Cyhoeddus.

3. SAFLE WERNFRAITH
Rhyddhad yn wir oedd gweld bod y safle hwn wedi cael ei ddad-ddyrannu ac na fydd yn cael ei gynnwys yn y fersiwn diwygiedig o'r CDLI 2018 - 2033.

Yn anffodus, mae risg y caiff ei goncritio gyda datblygiad o 42 o anheddau ymhell cyn i'r CCDLI hwn ddod i rym ac y bydd yn cael ei gategoreiddio fel un o'r Hap-safleoedd.
Rhyfedd o fyd!
Yn gywir,
Mair Evans

Dear Manager,

There are 2 recommendations for the village of Porth-y-rhyd to which I will respond briefly below.

1. Change the boundary to include the land adjacent to Tŷ Cynheidre for development.

Unfortunately, no details are available at this point in the process regarding the type of development, its size, number of houses, type of houses etc.

As a result, I have no option but to OBJECT. I kindly ask for an opportunity to respond again once details are made available to the public concerning the plans for this land.

2. SuV20/h1 — land adjacent to Llwynhenry Farm

I object for the following reasons:

There are no details available to the public at this point in the process regarding the type of development nor the number of houses. 5+ is rather vague and we know full well how the numbers can increase (e.g. Lovells 32 - 52 and the proposed Wernfraith site 27 - 42 ).

This site has been rejected in the past following many months of conducting different tests and assessments, consulting the relevant agencies and collating files of evidence from various sources.

The opinion of the independent Planning Consultant at the time was to Object. The recommendation of the Forward Planning Department was to Object. The Independent Inspector's ruling following a Public Hearing was to Object, and that was the County Council's decision based on a sound and rational process.

I fully respect the Applicant's right to resubmit the site but although the field was made smaller this time parts of it are still within Flood Zones C2 and B and changing the location of an entrance does not remove all the other serious obstructions and impacts.

There is a water main close to the field. Thus far I have not received an answer to a simple question:
How much space needs to be kept clear around the pipe as a buffer zone or Safety Corridor from development?

There are many serious problems in terms of rainwater and the sewerage system. I often feel that the cart is being put before the horse. Should not the infrastructure be upgraded before development is allowed.
Otherwise, the impact can be terrible as already seen in this village.
I register my opposition to the allocation of this field in the Revised Local Development Plan 2018-2033 and wish to speak in Welsh at a Public Examination hearing session.

3. WERNFRAITH SITE
What a relief to see that this site has been de-allocated and that it will not be included in the revised version of the LDP 2018 - 2033.
Unfortunately, there is a risk that it will be concreted over with a development of 42 dwellings long before this LDP comes into force and that it will be categorised as one of the windfall sites.
Strange indeed!

Regards,
Mair Evans

Atodiadau:


Ein hymateb:

Support is welcomed.