Gwrthwynebu
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
ID sylw: 1290
Derbyniwyd: 07/02/2019
Ymatebydd: Mr Gethin Thomas
Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:
Mi fyddai'r datblygiad yma yn cael effaith niweidiol iawn ar y y pentref sydd yn barod yn drwm gan draffig ar wahanol gyfnodau o'r dydd. Mae'r lleoliad yma gerllaw yr ysgol Gynradd, ac mae problemau traffig difrifol yno'n barod yn amharu ar ddiogelwch y disgyblion. Byddai hyn yn gwaethygu'r sefyllfa
A oes yna isadeiledd digonol yn y pentref i gwrdd a gofynion y datblygiad hwn?
A ydych wedi rhoi ystyriaeth i effaith y datblygiad hwn ar yr iaith Gymraeg ym mhentref Drefach. Ar hyn o bryd mae canran o tua 64% o bobl Drefach yn medru ac yn defnyddio'r Gymraeg.