Object
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
Representation ID: 1285
Received: 07/02/2019
Respondent: Mr Gethin Thomas
Representation Summary:
Mi fyddai'r datblygiad yma yn creu mwy o drafnidiaeth ar sgwar y pentref sydd yn barod yn drwm gan draffig ar wahanol gyfnodau o'r dydd. A ydych wedi ystyried y problemau a geir yma yn sgil loriau o'r chwarel leol?
A oes yna isadeiledd digonol yn y pentref i gwrdd a gofynion y datblygiad hwn?
A ydych wedi rhoi ystyriaeth i effaith y datblygiad hwn ar yr iaith Gymraeg ym mhentref Drefach. Ar hyn o bryd mae canran o tua 64% o bobl Drefach yn medru ac yn defnyddio'r Gymraeg. Rhaid gwarchod hynny.