Gwrthwynebu

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

ID sylw: 796

Derbyniwyd: 06/02/2019

Ymatebydd: Mrs Janet Thomas

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Mae'r tir hwn yn dir amaethyddol da ac yn gynefin naturiol y mae angen ei ddiogelu o ran amgylchedd iach a negydu effeithiau carbon. Nid oes restr aros am dai yn Llanddarog ac mae'r ysgol gynradd yn llawn. Mae'r datblygiadau sydd ynghlwm â'r safleoedd ymgeisio yn Llanddarog ar raddfa drefol, yn afresymol ac yn hurt o ystyried yr effeithiau ar natur y pentref, yr amgylchedd, y llif traffig a'r gwasanaethau carthffosiaeth. Gwrthwynebaf hefyd oherwydd byddai codi tai ar y safle hwn yn golygu y byddai deiliaid y tai cyfagos yn colli eu preifatrwydd ac yn dioddef sŵn ac anhwylusdod mawr.