Gwrthwynebu

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

ID sylw: 535

Derbyniwyd: 04/02/2019

Ymatebydd: Mrs Ann Rhys

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Dwysedd: Pentref bach yw Porth-y-rhyd. Yn ol maint y safle hwn gellid adeiladu nifer sylweddol o dai arno, dros 30. Bydd y datblygiad arfaethedig yn anghydnaws a chymeriad gwledig y pentref gan gynyddu traffig ac arferion cymudo yn sylweddol. Ar ben hyn mae colled tir amaethyddol da yn mynd i ddigwydd.