Gwrthwynebu

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

ID sylw: 3031

Derbyniwyd: 07/02/2019

Ymatebydd: Mr Gerwyn Rhys

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Safleoedd: SR/139/001 (Middleton-Bolgoed), SR139/002 (caeau ger Llwyn Henri)

Ysgrifennaf atoch I ddatgan fy ngwrthwynebiad i'r ddau safle uchod a gynigiwyd fel safleoedd posibl yn rhan o CDLI Diwygiedig Sir Gaerfryddin. Ysgrifennais atoch yn flaenorol yn 2012 yn datgan fy ngwrthwynebiad i'r Safleoedd Datblygu Amgen, ac mae llawer o'r un dadleuon yn berthnasol yn yr achos hwn. Carwen ddweud hefyd fod trigolion y pentref wedi cael cryn sioc wrth glywed am y posibilrwydd y gallai rhagor o dai gael eu codi yma. Dyma grynodeb o fy rhesymau dros wrthwynebu'r safleoedd uchod.

I write to express my objection to the two sites offered above as potential sites for Carmarthenshire's Revised Local Development Plan. I previously wrote to express my objection to the Alternative Development Sites in 2012, and many of the same arguments are relevant in this case. I would also like to note that the residents of the village have been shocked by the possibility of more houses being built here. Here is a summary of my reasons for objecting to the above sites.