Gwrthwynebu

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

ID sylw: 3011

Derbyniwyd: 06/02/2019

Ymatebydd: Mr & Mrs R & A Rhys

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Cynlluniau Tai Newydd ym Mhorth-y-rhyd

Gwrthwynebwn godi rhagor o dai yn y pentref gan ei fod yn gorwedd, yn swyddogol, ar barth llifogydd. Nid yw, ymhellach, yn deg denu prynwyr I fuddsoddi mewn tai newydd, nid yn unig oherwydd y problemau annymunol a ddaw yn sgil llifogydd ond hefyd am y bydd yswiriant eu tai yn annerbyniol o uchel.
O ddal ati I ychwaegu'n sylweddol at nifer y tai gan anwybyddu'r ffactorau hyn ein hofn ni yw y bydd ein cartrefi yn y pen draw yn mynd yn ddiwerth am na fydd neb eisiau eu prynu.

New housing developments in Porth-y rhyd
We object to the building of more houses in the village due it being officially within a flood zone. Attracting people to invest in new houses would be unfair, not just due to the undesirable problems regarding floods, but also because their house insurance would be extremely high.
By continuing to build a significant amount of houses and ignoring these issues, we fear that our homes will be worthless in the future due to the fact that no one will want to buy them.