Gwrthwynebu
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
ID sylw: 3003
Derbyniwyd: 06/02/2019
Ymatebydd: Mr Glan Davies
Ysgrifennaf i gofrestru fy ngwrthwynebiad cryf iawn i gynnwys y ddau safle SR/139/001 ac SR/139/002 yn y cynllun newydd.
Mae fy nghartref i yn un o ddau fyngalo sy'n ffinio â'r cae lle bydd un o'r datblygiadau posib (SR/139/002) - 32 neu fwy o ddai - datblygiad anferth! Rwy'n gwybod nad oes gen i hawl I olygfa nac ychwaith i fwynhau cael cae gwyrdd y tu ôl I'm cartref. Ar hyn o bryd mae'n deimlad braf codi yn y bore ac yn sicr mae'n llesol I iechyd.
Fel un fu'n ffermio rwy'n gwybod pa mor bwysig yw diogelu tir amaeth da. Mae'r ffermwr sy'n rhentu'r cae uchaf hwn yn cael tri chnwd o silwair bob blwyddyn. Byddai datblygu yma yn golygu colli tir amaeth o safon. Rwyn'n gwybod nad ydy'r cae isaf yn dir da o gwbwl ond mae'n gae holl bwysig am reswm arall. I'r cae hwn mae'r holl ddŵr glaw yn llifo o'r ardal gyfagos felly mae'n bwysig fel cae draeniad naturiol. Mae rhannau o'r cae ar "flood zone". Yn aml iawn, fe welir pyllau ar y cae a llawr o ddŵr yn llifo i'r hewl. Beth fydd canlyniad rhagor o goncritio?
I write to register my strong objection to including the two sites SR/139/001 and SR/139/002 in the new scheme.
My home is one of the two bungalows adjoining the field where one of the developments is proposed (SR/139/002) - 32 or more homes - a huge development! I know that I have no right to a view or to enjoy having a green field behind my home. At present, it's a lovely feeling getting up in the morning and it's definitely beneficial to health.
As one who used to farm, I know how important it is to safeguard good agricultural land. The farmer who rents this top field has three crops of silage from it each year. Developing here would mean losing quality agricultural ground. I know that the bottom field is not good ground at all but it is an important field for another reason. All of the rain water flows into this field from the nearby area therefore it is important as a natural drainage field. Parts of the field are on a "flood zone". Very often, pools are seen on the field and lots of water flows onto the road. What will the effect of more concreting be?