Gwrthwynebu

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

ID sylw: 1590

Derbyniwyd: 08/02/2019

Ymatebydd: Dr Goronwy Jones

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Noder, mae'r gwrthwynebiad yma ar rhan Dr Goronwy Jones, Mindirardi, Mr Elfryn Williams Talar Deg a Mr Rhodri Davies, Cae'r Llwyn; y tri yn byw ger SR/078/002. Nid yw'r datblygiad arfaethedig yma yn gyson gyda Papur Pwnc Cyngor Caerfyrddin "Terfynau Datblygu" Para 3.8 ("parch at gymeriad pentref"; Para 4.3 ("gwledig v trefol") a Para 8.6 ("Gorlenwi", eisoes disgwylir rhagor o dai yn Landdarog :W26987. *Diogelwch : Byddai'r fynedfa yn dod allan i encilfa (lay-by) gyda chwyddiant sylweddol iawn yn ei ddefnydd, yn arwain at dagfa. Amcanestyniadau 2014 Llywodraeth Cymru DDIM yn disgwyl cynnydd mawr ym mhoblogaeth Sir Gar.